Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 – Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Mawrth 2023
Amser:
14.00 -
14.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13254
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Luke Fletcher AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd yr Aelodau bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriad gan Joel James AS.
Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS.
2 Deisebau newydd
2.1 P-06-1318 Eithrio ffyrdd A a B yng Nghymru o’r cyfyngiad cyflymder cyffredinol arfaethedig o 20 mya
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y mater wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Senedd, a bod mwyafrif clir o'r Aelodau wedi cymeradwyo’r penderfyniadau a wnaed. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau na allant fynd â'r ddeiseb ymhellach fel Pwyllgor, a chaewyd y ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebau.
2.2 P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytuno i'w chadw ar agor tra’n disgwyl yr adroddiad cyfnod 2, ac i anfon ymateb y deisebydd ymlaen at y Dirprwy Weinidog yn y cyfamser i ofyn am ei farn arno.
2.3 P-06-1322 Dylid ailddyrannu’r £30 miliwn sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer terfynau 20mya, i’r GIG, sydd mewn argyfwng, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr!
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y mater wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Senedd, a bod mwyafrif clir o'r Aelodau wedi cymeradwyo’r penderfyniadau a wnaed. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau na allant fynd â'r ddeiseb ymhellach fel Pwyllgor, a chaewyd y ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebau.
2.4 P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a chytunwyd i gynnal ymchwiliad i’r mater.
Cytunodd yr Aelodau i drafod yr ymchwiliad yn fanylach yn ystod y sesiwn breifat.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y gwaith a wnaed eisoes gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar lygredd amaethyddol yn fwy cyffredinol, a bwriad Dŵr Cymru i uwchraddio'r systemau carthffosiaeth yn Aberhonddu, Llan-ffwyst a Brynbuga, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
At hynny, cytunodd yr Aelodau i anfon manylion y ddeiseb at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
3.2 P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ar y ddeiseb a'r ddadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn, a chytunodd i'w chadw ar agor tra’n disgwyl yr ymgynghoriad ar argymhelliad y Pwyllgor, ac i adolygu unrhyw gynnydd a chamau gweithredu a allai godi yn sgil hynny.
3.3 P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y safbwynt clir a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a phenderfyniad y cyngor yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus i fwrw ymlaen â'i bartneriaeth â Live Nation, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
3.4 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn gofyn am ddadl ar adroddiad y Pwyllgor a’r ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i’r adroddiad hwnnw.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
5 Cylch gorchwyl – P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol
Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a bydd yn cynnal ymchwiliad ar y mater cyn diwedd tymor yr haf.
6 P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd rhanddeiliaid i roi tystiolaeth ar y mater dros y misoedd nesaf.